AGGCC

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) yn cofrestru ac arolygu ystod eang o wasanaethau gofal yn cynnwys gwasanaethau gofal plant i blant dan 8 oed a ddarperir gan warchodwyr plant, meithrinfeydd, grwpiau chwarae, cyfleusterau créche, clybiau y tu allan i oriau ysgol/clybiau gwyliau a chynlluniau chwarae.

Mae angen i ddarparwyr gofal plant fodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol a Rheoliadau er mwyn cofrestru, a chynnal y safonau hynny bob amser wrth weithredu. Nodau pennaf cofrestru yw hyrwyddo ansawdd ac amddiffyn plant, gan sicrhau eu bod yn derbyn gofal mewn amgylchedd diogel ac addas.

Gall rhieni/gofalwyr gysylltu â’r AGGCC os oes ganddynt unrhyw bryderon ynglŷn â’r darparwr gofal plant a byddant yn ymchwilio i gwynion a allai ddangos nad yw’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a’r gofynion yn cael eu cyflawni.

Cysylltwch â swyddfa AGGCC De Ddwyrain Cymru ar 03000 628757 neu rhowch glic ar wefan AGGCC.

Mwy o wybodaeth am y Safonau Gofynnol Cenedlaethol >