Gwasanaethau Chwilio

Gwarchodwr Plant
Mae gwarchodwyr plant yn ddarparwyr gofal plant cofrestredig sy’n gweithio yn eu cartrefi eu hun gan ofalu am blant o’u genedigaeth hyd at 12 oed a hynny am fwy na 2 awr y dydd.
Meithrinfa Ddydd
Mae meithrinfeydd dydd yn darparu gofal plant i blant ifanc o’u geni hyd at 5 mlwydd oed.
Clwb Ar Ôl Ysgol
Mae clybiau ôl-ysgol yn darparu gofal plant ar ôl oriau ysgol, ac yn lle diogel i blant chwarae, ymlacio a chymdeithasu.
Clwb Gwyliau
Mae clybiau gwyliau yn darparu ystod eang o weithgareddau chwarae i blant yn ystod gwyliau ysgol.
Clwb Brecwast
Mae clybiau brecwast fel arfer yn cael eu rhedeg gan ysgolion, ac yn cynnig lle diogel sy’n cael ei oruchwylio i blant fynd cyn yr ysgol.
Cylchoedd Chwarae
Mae cylchoedd chwarae yn darparu’n bennaf am blant 2½ i 5 mlwydd oed, fel arfer am 2 i 3 awr yn y bore neu’r prynhawn ac yn bennaf yn ystod tymor yr ysgol yn unig.
Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd
Mae gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn cwmpasu ystod o wasanaethau, rhwydweithiau a chyfleusterau cymorth i rieni a gofalwyr a phobl ifanc er mwyn gwella eu gallu i ymdopi â heriau bywyd teuluol.
Gweithgareddau Plant a Phobl Ifanc
Amrediad o wybodaeth am glybiau a gweithgareddau lleol i blant a phobl ifanc.
Grŵp Rhieni a Phlant Bach
Mae grwpiau rhieni a phlant bach yn cynnig cyfleoedd i blant a rhieni gymdeithasu mewn lleoliad anffurfiol a chyfeillgar.
Hamdden
Hamdden.
Chwarae Mynediad Agored
Gall darpariaeth Chwarae Mynediad Agored fod yn ddarpariaeth barhaol neu dymor byr, wedi’i lleoli mewn amrywiaeth o leoliadau.
Meithrinfeydd mewn ysgolion
Meithrinfeydd mewn ysgolion.