Gofal Plant Cofrestredig

Rhaid i unrhyw un sy’n darparu gofal plant i blant dan 12 oed am fwy na 2 awr y dydd am dâl gael ei gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Mae gofal plant cofrestredig yn gymwys i rieni a gofalwyr hawlio cymorth trwy’r Elfen Gofal Plant Credyd Treth Gwaith / Credydau Treth Cyffredinol, Talebau Gofal Plant neu Ofal Plant Di-Dreth.  Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen yn darparu manylion am ofal plant lleol a bydd yn nodi’n amlwg a yw lleoliad wedi’i gofrestru gyda AGC.

Nid oes rhaid i nanis a gwarchodwr plant fod wedi cofrestru gyda AGC pan fyddant yn gofalu am y plentyn yng nghartref y plentyn. Mae cofrestriad dewisol ar gyfer nanis o dan y Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant ac os bydd nani yn cael ei gymeradwyo/chymeradwyo, efallai y bydd teuluoedd yn gallu hawlio help gyda chost gofal plant.

Mwy o wybodaeth ar ofal plant cofrestredig AGC >

Nôl i ofal plant ac addysg feithrin >