Gwarchodwr plant

Mae gwarchodwyr plant yn gweithio yn eu cartrefi eu hunain, gan ddarparu gofal plant i fabanod a phlant o wahanol oedrannau ac felly gallant ofalu am frodyr a chwiorydd gyda’i gilydd. Maent yn hunangyflogedig ac yn gosod eu ffioedd ac oriau agor eu hunain. Mae rhai gwarchodwyr plant yn cynnig contractau yn ystod y tymor yn unig, oriau agor cynnar neu hwyr i rieni / gofalwyr sy’n gweithio sifftiau neu oriau annodweddiadol.

Rhaid i warchodwyr plant yng Nghymru gael eu cofrestru a’u harchwilio gan AGC ac yn dibynnu ar eu cofrestriad gallant ofalu am hyd at 6 o blant ar yr un pryd. Bydd llawer o warchodwyr plant yn darparu gofal plant cyn ac ar ôl ysgol ar gyfer plant oed ysgol.

Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen am fanylion gwarchodwyr plant lleol i gwrdd â’ch anghenion. Rhadffôn: 0800 0196 330 neu e-bostiwch fis@torfaen.gov.uk

Chwiliwch am warchodwyr plant yma

Nôl i ofal plant ac addysg feithrin >