Gall mynd allan â’ch un bach fod yn fanteisiol iawn i chi a’ch plentyn. Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen roi gwybod i chi am grwpiau y gallwch ymuno â hwy yn yr ardal.
Beth yw grŵp babanod a phlant bach?
Mae grwpiau Babanod a Phlant Bach yn sesiynau lle gall rhieni a’u plant gyfarfod ag eraill a mwynhau cyfleoedd chwarae a dysgu. Fel rheol caiff sesiynau eu rhedeg gan wirfoddolwyr neu fasnachfraint ac maent yn parhau tuag awr neu ddwy. Mae hefyd yn rhoi cyfle i rieni gyfarfod â rhieni eraill a mwynhau’r amser gyda’i gilydd.
Gall rhai grwpiau ganolbwyntio ar gerddoriaeth, amser stori ac amser rhigwm, cyfrwng Cymraeg (nid yw’n angenrheidiol bod rieni yn siarad Cymraeg) neu chwarae rhydd. Gall y rhain ddigwydd mewn neuaddau cymunedol, llyfrgelloedd, canolfannau chwarae meddal, neuaddau eglwys a gallant amrywio o ran pris a hyd.
I ddod o hyd i’ch grŵp lleol defnyddiwch ein cyfleuster chwilio ar lein isod.
Rydym hefyd yn rhannu gweithgareddau a digwyddiadau tymhorol sy’n cael eu cynnal yn Nhorfaen ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol.
Fel arall, ewch i’n hadran Porth Newyddion i gael gwybodaeth bellach
Os ydych yn chwilio am ddigwyddiadau a gweithgareddau y tu allan i Dorfaen a fyddech cystal â chlicio ar y dolenni canlynol i weld yr awdurdodau lleol cyfagos: