Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yn Nhorfaen yn cynnig nifer o weithgareddau a phrosiectau i bobl ifanc 11-25 oed sy’n byw yn Nhorfaen. Maent yn gweithio o fewn clybiau ieuenctid lleol, ysgolion lleol, trwy weithgaredd allgymorth a llawer mwy.
Arweinir prosiectau a gweithgareddau yn bennaf yn ôl galw pobl ifanc yn Nhorfaen. Os hoffech wybod mwy, neu siarad â rhywun yn y Gwasanaeth Ieuenctid ffoniwch 01633 648124.
Gall pobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ystod y nos a phenwythnosau a chyhoeddir llawer o ddiweddariadau am weithgareddau trwy eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol. Cliciwch ar yr eiconau isod i gael mwy o wybodaeth.
Fel arall, gallwch chwilio am Glybiau Ieuenctid lleol trwy ein cyfleuster chwilio ar-lein isod.
Clybiau Ieuenctid a Gwybodaeth Ieuenctid
Cysylltiadau Defnyddiol