Mae dewis gofal plant neu addysg blynyddoedd cynnar i’ch plentyn yn gam enfawr i chi a’ch teulu. Mae yna lawer o ddewisiadau gofal plant gwahanol yn Nhorfaen i chi ddewis ohonynt.
Ceisiwch roi digon o amser i chi ymweld â nifer o opsiynau posibl i gael syniad da o’r hyn fyddai’n addas i’ch plentyn. Peidiwch ag anghofio mai chi yw’r arbenigwr ar eich plentyn a dylech wrando ar eich teimladau.
Gall fod yn syniad da mynd â’ch plentyn gyda chi i weld sut mae staff yn siarad ag ef neu hi. Ceisiwch fynd pan fydd plant yno er mwyn i chi weld a ydynt yn hapus ac yn brysur.
Gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen (FIS) eich hysbysu o’r hyn sy’n briodol ar gyfer oedran eich plentyn a’ch anghenion gofal plant. Cysylltwch â ni ar 0800 0196 330 neu e-bostiwch fis@torfaen.gov.uk i gael manylion darparwyr gofal plant lleol.
Os hoffech chi ddarllen mwy am ddewis gofal plant a’r gwahanol fathau o ofal plant sydd ar gael, cliciwch ar y lluniau isod i weld llyfryn Llywodraeth Cymru ar “Sut i ddewis Gofal plant o ansawdd” (PDF) yn Saesneg neu yn Gymraeg.