Rolling Hills

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGiD) Torfaen yn rhoi gwybodaeth a chyngor diduedd, rhad ac am ddim am wasanaethau a gweithgareddau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, yn cynnwys darpar rheini yn Nhorfaen. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am addysg feithrin, meithrinfeydd dydd, cylchoedd chwarae, cylchoedd meithrin, gwarchodwyr plant cofrestredig, clybiau y tu allan i’r ysgol, grwpiau babanod a phlant bach, gweithgareddau hamdden a llawer mwy.

Gallwn hefyd gyfeirio rhieni/gofalwyr at wybodaeth am wasanaethau neu fudiadau eraill yn ôl ymholiadau unigol. Rydym yn un o 22 o Wasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yng Nghymru, sydd yn cael eu darparu gan Awdurdodau Lleol.

Pan fyddwch yn cysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen am fod gennych ymholiad, mae gennym system ar-lein i'n cynorthwyo. Efallai y bydd angen i ni ofyn am eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt i’w nodi a’u storio ar y system. Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen wedi ymrwymo i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau. Mae Hysbysiad Preifatrwydd yn nodi sut yr ydym yn defnyddio gwybodaeth amdanoch a sut yr ydym yn diogelu eich preifatrwydd, ar gael yma.

Ydych chi angen help gyda chostau gofal plant?

O dan Gynnig Gofal Plant Cymru, gallech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Nod y cynllun gofal plant hwn a ariennir gan y llywodraeth yw lleihau’r faich costau gofal plant fel y gallwch wario'r arian rydych wedi'i gynilo ar y pethau pwysicaf i'ch teulu.

Cynnig Gofal Plant Cymru
Young girl enjoying the outdoor area at a childcare setting
Young girl playing with wooden shape puzzles

Mae ymennydd eich plentyn yn anhygoel!

Mae'n tyfu o hyd ac yn gwneud cysylltiadau newydd. Pan fyddwch chi’n chwarae, gwrando a siarad gyda’ch plentyn, rydych chi’n ei helpu i ddysgu siarad ac yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd. Mae gennym ni lawer o offer, awgrymiadau a chyngor i’ch helpu i gael eich plentyn i siarad.

Bydd y pethau bach rydych chi’n eu gwneud yn gwneud gwahaniaeth mawr, nawr ac yn y dyfodol.

Ymgyrch Llywodraeth Cymru: Siarad Gyda Fi

Dewis Gyrfa yn y maes Gofal Plant

Ydych chi'n angerddol am lunio bywydau plant a chael effaith gadarnhaol arnyn nhw a'u teuluoedd? Mae gyrfa mewn gofal plant yn unigryw ac yn werth chweil ac mae pob diwrnod yn wahanol. Fe gewch gyfle i fod yn rhan o addysg gynnar plentyn a helpu i lunio ei ddyfodol, gan ei wylio yn tyfu, dysgu a ffynnu.

Dewis Gyrfa yn y maes Gofal Plant
Young boy and staff member playing with a soft doll

Ein Partneriaid

Ewch i wefannau ein partneriaid i gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i deuluoedd yn Nhorfaen

Welsh Government Logo
Dewis Cymru Logo
Careers Wales Logo
Pacey Logo
National Day Nurseries Association Logo
WeCare.wales Logo
Torfaen Early Years Logo