A oes gennych chi/rhywun yr ydych yn ei adnabod, ddiddordeb mewn gyrfa yn y maes gofal plant?
Dewisiadau mewn Gofal Plant
Mae Dewisiadau mewn Gofal plant yn rhaglen rhad ac am ddim ac yn gyflwyniad perffaith i yrfa mewn Gofal Plant. Ei nod yw eich helpu i wneud dewis gwybodus wrth ddewis gyrfa os ydych chi’n ystyried gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae yna lawer o swyddi o fewn gofal plant sy’n cynnwys gwarchod plant, gweithio mewn creche, cylch chwarae, cylch meithrin, meithrinfa ddydd neu leoliad y tu allan i’r ysgol. Bydd siaradwyr gwadd yn mynychu rhai o’r sesiynau i rannu eu profiadau a’u harbenigedd.
Bydd crèche ar gael ond bydd hynny’n amodol ar y lleoedd fydd ar gael.
I gyfleu eich diddordeb mewn lle ar y cwrs, rhowch alwad i 01633 647734.
Mae gwybodaeth am ddod yn warchodwr plant cofrestredig neu nani gymeradwy ar gael yma.