Cynlluniau Chwarae

Cynlluniau Chwarae’r Haf
Mae cynlluniau chwarae’r gwyliau yn aml yn cael eu rhedeg gan sefydliadau gwirfoddol, awdurdodau lleol, elusennau, parciau lleol, canolfannau cymunedol, canolfannau hamdden neu ysgolion. Nid ydynt yn unig yn lefydd gwych i bobl ifanc gyfarfod â’u ffrindiau – ond hefyd yn cynnig ystod eang o weithgareddau i’w cadw’n brysur, megis chwaraeon, drama, celf, crefftau a cherddoriaeth. Mae llawer o gynlluniau chwarae yn leoliadau mynediad agored – mae hyn yn golygu bod y ddarpariaeth chwarae yn cael ei staffio, mewn lleoliadau lle mae’r plant, gan gynnwys y rhai sydd dan 8 oed, yn rhydd i fynd a dod fel maent angen, yn rhydd i benderfynu beth maen nhw eisiau ei wneud a sut maen nhw’n mynd ati. Gall blant ddysgu a datblygu trwy chwarae, gyda’r rhyddid i chwarae ar eu pen eu hunain neu gydag eraill mewn awyrgylch a ddylai fod yn ysgogol, cyffrous ac yn llawn her tra’n rhydd o unrhyw risg amhriodol. Nid oes contract rhwng y gweithwyr chwarae a’r rhieni na’r gofalwyr i ddarparu gofal am unrhyw gyfnod tra bo’r plentyn yn bresennol.

Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen am fanylion cynlluniau chwarae tymhorol ar Rhadffôn 0800 0196 330 neu e-bostiwch fis@torfaen.gov.uk

 

Nôl i ofal plant ac addysg feithrin >