Cynllun Cymeradwyo Gofal Plant yn y Cartref

Pam dod yn ofalwr plant / nani cymeradwy yn y cartref?

Ar hyn o bryd, nid oes rhaid i ofalwyr plant yn y cartref sy’n gweithio yng nghartref y plentyn eu hunain – neu nanis – gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ond gallant gofrestru’n wirfoddol o dan y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol. Gallai gofal plant yn y cartref ddiwallu anghenion rhai teuluoedd sy’n gweithio, fel y rhai sy’n gwneud gwaith sifft neu sydd angen gofal plant dros nos.

Mae’r Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol hwn yn achredu nyrsys / gofalwyr plant yn y cartref i weithio gyda phlant 0-7 oed, gan gynnig mwy o hyder i rieni sy’n cyflogi nani a hefyd y cyfle i hawlio rhai o’r costau gofal plant yn ôl (os yw’n gymwys) trwy Gredydau Treth.

Beth sydd ynghlwm â bod wedi’ch cymeradwyo?

Mae’r cynllun yn gwirio eich bod chi dros 18 mlwydd oed, yn meddu ar dystysgrif cymorth cyntaf pediatrig cyfredol, wedi cael gwiriad GDG manylach (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) a bod gennych gymhwyster ar Restr Cymwysterau Gofynnol Gofal Cymdeithasol Cymru i weithio o fewn y Y Sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant.

Rhaid i’r cymhwyster gofynnol o Fai 1af, 2017 fod yn un o’r canlynol:

Diploma mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (CCLD) (Cymru a Gogledd Iwerddon) lefelau 3, 4 neu 5

neu’r uned CYPOP 5 – Deall sut i sefydlu gwasanaeth gofal plant yn y cartref.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys cwestiynau a ofynnir yn aml ynghylch y Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol, ewch i  Arolygiaeth Gofal Cymru.