Rolling Hills

Cymorth Magu Plant

Magu plant yw un o’r cyfrifoldebau pwysicaf sydd gan rieni unigol, teuluoedd a chymunedau.

Nid yw’r gallu i fagu plant yn sgìl a geir dros nos. Yn hytrach, mae angen mynd ati’n barhau i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth a hunanymwybyddiaeth.

Sefydlwyd y grwpiau Magu Plant i helpu rhieni trwy’r heriau y gallant eu hwynebu wrth fagu eu plant.

Mae Torfaen yn cynnal sawl Rhaglen Magu Plant bob tymor mewn lleoliadau amrywiol.

Y Rhaglen Meithrin Cysylltiadau Teuluol

Dyma gwrs 10 wythnos i rieni a gofalwyr. Mae’n datblygu perthnasoedd cadarnhaol ar sail 4 syniad allweddol:

  • Hunanymwybyddiaeth a hunan-barch
  • Disgwyliadau priodol
  • Empathi
  • Disgyblaeth gadarnhaol

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i rieni gael cyngor da yn ogystal â chwrdd â rhieni eraill. Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn cynnwys:

  • Pwysigrwydd canmoliaeth
  • Ymddygiad i’w anwybyddu
  • Gwobrwyon a chosbau
  • Ymdopi â theimladau
  • Gofalu amdanom ni ein hunain
  • Helpu plant i aeddfedu
  • Gwasanaethau Cymorth Magu Plant

Rhaglen y Blynyddoedd Rhyfeddol - Babanod

Dyma gwrs 8 wythnos hamddenol a difyr, a gynlluniwyd ar gyfer rhieni sydd â baban 0-6 mis oed. Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn cynnwys:

  • Sut i feithrin perthynas glòs â’ch baban
  • Helpu eich baban i gysgu
  • Diddyfnu
  • Diogelwch
  • Pryd i alw Meddyg

Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio clipiau DVD a thrafodaethau grŵp. Byddwch yn dod â’ch baban gyda chi i’r grŵp, ac mae pob sesiwn yn cynnwys amser i fod yn egnïol gyda’ch baban.

Rhaglen y Blynyddoedd Rhyfeddol - Plant Bach

Dyma gwrs 10 wythnos difyr, a gynlluniwyd ar gyfer rhieni sydd â phlentyn bach 1-2 flwydd oed. Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn cynnwys:

  • Hybu Iaith Plant Bach
  • Canmoliaeth ac Anogaeth
  • Ymdopi â Gwahanu ac Aduno
  • Gosod Terfynau Effeithiol
  • Disgyblaeth Gadarnhaol

Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio clipiau DVD a thrafodaethau grŵp. Bydd crèche ar gael ar gyfer eich plentyn bach..

Rhaglen Sylfaenol y Blynyddoedd Rhyfeddol

Cwrs 12 wythnos yw’r Rhaglen Sylfaenol sy’n hybu’r defnydd o ganmoliaeth a chymhellion i annog ymddygiad cydweithredol ynghyd â disgyblaeth gadarnhaol. Mae’n ymdrin â’r canlynol:

  • Gosod rheolau tŷ
  • Trefn ddyddiol
  • Gosod terfynau effeithiol sy’n cryfhau sgiliau cymdeithasol plant a’u gallu i reoli eu hemosiynau
  • Defnyddio strategaethau amser i dawelu

Cysylltiadau Teuluol -Sesiynau Siarad â Phobl Ifanc - rhieni pobl ifanc

Mae gweithdai Siarad â Phobl Ifanc yn seiliedig ar ymchwil gyfredol ar ddatblygiad glasoed a magu plant. Maent wedi eu dylunio ar gyfer rhieni pobl ifanc a rhieni plant yn agosáu at eu harddegau.

Eu nod yw gwella’r berthynas rhwng rhieni a phobl ifanc trwy: Archwilio pwysigrwydd rhieni i bobl ifanc yn eu harddegau; Datblygu’r hyn y mae rhieni’n ei ddeall am ddatblygiad pobl ifanc yn eu harddegau a dylanwad datblygiad yr ymennydd ar ymddygiad; Datblygu’r hyn y mae rhieni yn ei ddeall am ba mor bwysig yw gwrando, cyfathrebu â geiriau a heb eiriau gyda phobl ifanc yn eu harddegau; Hyrwyddo dulliau cadarnhaol o osod ffiniau a datrys problemau; a chyfle i rieni rannu eu profiad â rhieni eraill. Cynigir 4 sesiwn.

Cysylltiadau Teuluol - Croeso i’r Byd – ystod oedran – cyn geni

Mae’r wyth sesiwn yn ffordd hamddenol i rieni feddwl am y trawsnewid i fod yn rhiant a thrafod materion a all fod yn her i bob mam a thad newydd.

Yn ystod y cyfnod o wyth wythnos byddwch chi’n cwrdd â rhieni eraill ac arweinwyr grwpiau profiadol i siarad am gwestiynau pwysig fel “Sut mae fy maban yn datblygu?” “Sut ddylwn i fwydo fy mabi?” “Beth fydda i’n ei wneud pan fydd fy maban yn crio?” “A oes help ar gael?”

Bydd rhieni’n mynychu’r grŵp o’r adeg y byddant yn cyrraedd 22 wythnos o feichiogrwydd ymlaen

Mae wyth sesiwn 2 awr gydag egwyl a lluniaeth

Gwahoddir 8-10 rhiant ac mae dau arweinydd grŵp wedi eu hyfforddi mewn Cysylltiadau Teuluol

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Swyddog Magu Plant Arweiniol - Ffôn: 01633 648792

I Dadau gan Dadau

Rhaglen 10 wythnos ar gyfer tadau newydd a darpar dadau sydd eisiau dysgu mwy am fod yn dad, a bod y tad gorau y gallant fod.

I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 07980682256 neu e-bostiwch [email protected]

Adnoddau ychwanegol ar Fagu Plant

Magu Plant. Rhowch amser iddo

Ewch i: https://www.llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo

This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.

NSPCC

Ewch i: www.nspcc.org.uk

This content is hosted by a third party. By showing the external content you accept these terms and conditions.