Gwasanaeth Chwarae Torfaen

Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn darparu cyfleoedd chwarae cymunedol i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 15 oed ar ffurf clybiau ar ôl ysgol a chynlluniau chwarae yn ystod hanner tymor a gwyliau’r haf.

Yn ogystal, caiff cymorth ei roi i blant a phobl ifanc rhwng 5 a 18 oed ag anableddau i’w helpu i fanteisio ar y ddarpariaeth chwarae gymunedol.

Caiff pobl ifanc 16 oed neu’n hŷn eu cynorthwyo i wirfoddoli mewn lleoliadau chwarae cymunedol yn ystod y gwyliau, gan gynnwys pobl ifanc ag anghenion ychwanegol. Mae hyfforddiant llawn yn cael ei roi.

Mae ein cynllun helpwyr ifanc wedi’i anelu at bobl ifanc rhwng 13 a 15 oed i helpu mewn lleoliadau chwarae cymunedol yn ystod y gwyliau. Nod yw prosiect yw grymuso pobl ifanc i ennill profiad gwaith a dysgu sgiliau a fydd yn eu helpu i symud ymlaen ym maes gweithio gyda phlant a phobl ifanc.

Mae lleoliadau hyfforddiant ar gael gyda Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn ystod tymor yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys cymorth i ddysgu sgiliau yn seiliedig ar waith, gweithio mewn amrywiol leoliadau gan gynnwys ysgolion a lleoliadau cymunedol, yn ogystal ag ennill cymhwyster achrededig.

Cliciwch yma i ddod o hyd i’r cynlluniau chwarae a chlybiau chwarae cyfredol

Cysylltwch â: Canolfan Chwarae Torfaen, Hen Lyfrgell Abersychan, Brynteg, Abersychan, Pont-y-pŵl, Torfaen, NP4 7BG

Tel: 01495 742951