Rhianta

Cael Mynediad i Gymorth Rhianta

Mae Dechrau’n Deg yn ymwneud â darparu cefnogaeth i’r teulu cyfan – yn ogystal â’r teulu estynedig.  Does dim llawlyfr i blant ac mae edrych ar eu hôl yn galed iawn. Does gan neb yr atebion i gyd.  Mae grwpiau rhianta’n rhoi cyfle i chi gwrdd â rhieni eraill a gweithio gyda’ch gilydd i ddatblygu sgiliau i gefnogi datblygiad, gofal a lles eu plant.  Mae’r grwpiau’n cynnwys pethau fel ymdopi â/rheoli ymddygiad plant, datblygu trefn, hyfforddiant tŷ bach, problemau cwsg a nifer o broblemau eraill sydd gan rieni.  Hefyd mae’n rhoi cyfle i chi gael paned mewn heddwch.  Yn ogystal â sesiynau grŵp, mae croeso i chi siarad â staff Dechrau’n Deg yn unigol ynglŷn â materion yn ymwneud â bod yn rhiant.

Rydym yn trefnu sesiynau galw heibio fel y Clwb Babanod ac Amser Hwyl i’r Teulu. Mae’r rhain yn canolbwyntio ar chwarae, dysgu a thyfu.  Chi sydd â’r rhan bwysicaf yn natblygiad eich plentyn ac yn y sesiynau yma gallwch gael hwyl yn darllen, canu a chwarae gyda’ch plentyn, tra’n rhannu syniadau gyda theuluoedd eraill a staff          .

Rydym yn trefnu cyrsiau sydd angen bwcio gan eu bod yn mynd am amser penodol fel Cysylltiadau Teuluol a Blynyddoedd Anhygoel.  Mae cyrsiau ar gyfer yr amser yr ydych yn feichiog hyd at yr amser y bydd eich plentyn yn barod i fynd i’r ysgol ac er mai rhywun arall sy’n trefnu’r cwrs gallwn gyfeirio pobl at gyrsiau ar gyfer y rhai sydd yn eu harddegau ac sy’n peri gofid. Gall unrhyw un o fewn ardal Dechrau’n Deg fynychu’r cyrsiau yma ac maen nhw’n cael eu cynnal ar draws Torfaen.

Os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch â Irene ar 01633 647402 .