Grant Gofal Plant ar gyfer Gofalwyr

Grant Gofal Plant i Ddarparwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Grant I Ddarparwr Gofal Plant i helpu darparwyr gofal plant gyda’r hinsawdd economaidd  o achos coronafirws (Covid-19).

Pwrpas y grant yw darparu cymorth ariannol i fusnesau gofal plant sydd wedi’u cofrestru gyda AGC sydd wedi dioddef gostyngiad mewn gwir incwm o ganlyniad achosion COVID-19 ac nad ydynt wedi gallu cael mynediad i grantiau gan gynlluniau eraill Llywodraeth y DU neu Gymru.

Mae’r grant yn ategu mesurau cymorth eraill y Llywodraeth (megis y Cynllun Cadw Swyddi i gwmpasu gweithwyr cennad) ar gyfer pobl a busnes.

Nid ydych yn gymwys i dderbyn y grant hwn os ydych wedi derbyn, neu wedi llwyddo i wneud cais am gymorth gan:

  • Y grant ardrethi busnes gan eich Awdurdod Lleol
  • Cronfa gwytnwch economaidd ar gyfer busnesau bach a chanolig a microfusnesau
  • Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogaeth
  • Grant Cychwyn Llywodraeth Cymru
  • Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector

Yn ychwanegol i’r cynlluniau uchod, ni fyddwch yn gymwys os ydych wedi derbyn cyllid o dan gynllun grant Mudiad Meithrin gan fod hwn yn cael ei ariannu trwy Gronfa Gwydnwch y Trydydd Sector.

Beth fydd y grant yn ei gwmpasu?

Mae grant o hyd at £5,000 ar gael i fusnesau gofal plant cofrestredig AGC sydd wedi cael eu heffeithio gan Covid-19. Mae’n rhaid bod eich gwir incwm ar gyfer Ebrill i Fehefin 2020 wedi gostwng o gymharu ag Ebrill-Mehefin 2019 oherwydd COVID-19 ac nad oedd yn bosib cyrchu’r gynlluniau grant amrywiol eraill a gynigir gan Lywodraethau’r DU a Chymru. Neu, fel arall, os gwnaethoch ddechrau masnachu ar, neu ar ôl 2 Ebrill 2019, efallai y byddwch yn gymwys i gael grant o hyd at £2,500 os gwnaethoch ddioddef gwir golled am y cyfnod 1 Ebrill 2020 i 30 Mehefin 2020

Dim ond busnesau sy’n cwrdd â’r meini prawf canlynol y manylir arnynt yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru yma all hawlio’r grant hwn 

Sut mae gwneud cais?

Gall darparwyr gofal plant wneud cais am y grant trwy ddefnyddio’r gwiriwr cymhwysedd ar wefan Business Wales https://fundchecker.businesswales.gov.wales/childcare/cy

Mae dogfennau wedi’u sganio a lluniau yn ffurfiau derbyniol o dystiolaeth at y diben hwn.

Os ydych chi’n gymwys i dderbyn y grant, cwblhewch y Ffurflen Gais am Grant Darparwr Gofal Plant  a’i hanfon trwy e-bost ynghyd â’ch dogfennau ategol i EarlyYearsABSHub2@torfaen.gov.uk

Mae’n rhaid gynnwys eich tystiolaeth ategol gyda’ch cais. Ni fydd ceisiadau heb dystiolaeth ategol yn cael eu hystyried.

Cydnabyddir derbyn eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gwneir penderfyniadau ar geisiadau yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir yn y ffurflen gais, tystiolaeth gysylltiedig a gwiriadau gwybodaeth a gynhelir o ffynonellau data busnes eraill. Os bydd unrhyw ddata y’n anghyflawn neu’n anghywir neu’r dystiolaeth a ddarperir yn annigonol ni chaiff y cais ei brosesu a bydd yn cael ei wrthod.

Bydd y tîm yn anelu i brosesu ceisiadau grant o fewn 30 diwrnod ar ôl eu derbyn.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo byddwch yn derbyn cynnig grant trwy e-bost yn eich hysbysu o ddyfarnu’r grant. Bydd cynigion grant ar agor am 14 diwrnod – os na chânt eu derbyn o fewn y cyfnod hwn, tynnir y cynnig yn ôl.

Telir grantiau ar y sail bod 100% o’r grant yn cael ei dalu ymlaen llaw.

Rhaid i ymgeiswyr dderbyn y cynnig grant trwy e-bost cyn y gellir talu.

Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwch yn derbyn e-bost yn amlinellu’r rheswm/rhesymau dros ei wrthod. Nid oes unrhyw broses apelio.

Mae’r Grant Darparwr Gofal Plant yn agored i geisiadau o’r 24 Awst 2020 nes bod y gronfa wedi ymrwymo’n llawn neu 31 Hydref 2020, pa un bynnag sydd gyntaf. Bydd ceisiadau yn cael eu trin ar sail y cyntaf i’r felin. Gall hyn arwain at beidio â gwerthuso ceisiadau ar ôl iddynt gael eu cyflwyno os yw’r gronfa wedi ymrwymo’n llawn. Mae gan Lywodraeth Cymru ddisgresiwn llwyr ar hyd a thelerau’r gronfa.