Ymyrraeth Gynnar – Gwybodaeth i Weithwyr Proffesiynol

Yn y Blynyddoedd Cynnar rydym yn edrych ar sut orau y gallwn gynorthwyo teuluoedd gydag anghenion sy’n dod i’r amlwg, lle mae adnoddau ar gael. Ein nod yw darparu dull integredig tuag at wasanaeth Cymorth Teulu gan ddefnyddio’r strwythurau a’r systemau presennol a gyflenwir gan holl Wasanaeth Blynyddoedd Cynnar.

Sefydlwyd Panel Ymyrraeth Gynnar Torfaen i ddarparu un pwynt mynediad, beth bynnag yw’r ffrydiau ariannu, i ddarparu ymyrraeth gynnar a chymorth ychwanegol i blant a theuluoedd sy’n agored i niwed, a adnabuwyd ar gyfer y rhai gydag anghenion newydd dan ein cynnig Gwasanaethau Cyffredinol.

Mae Map Darpariaeth ADY Blynyddoedd Cynnar Torfaen yn ganllaw i bob grŵp o weithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar:

  • Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar
  • Gwarchodwyr Plant
  • CADY ac Arweinwyr ADY mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar
  • Athrawon a staff cymorth
  • Staff Cynhwysiant yr ALl

Mae’r ddogfen hon yn nodi cynnig gwasanaeth Torfaen a’r prosesau i ddiwallu gofynion y Ddeddf ADY a’r Tribiwnlys Addysg 2018 ac yn nodi sut i gael mynediad at wasanaethau a darpariaethau’r Awdurdod Lleol ar gyfer dysgwyr blynyddoedd cynnar.

I weld Map Darpariaeth ADY Blynyddoedd Cynnar, Addysg Torfaen ar gyfer plant 0-5 oed – cliciwch yma (Saesneg yn unig)

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Arweiniol ADY Blynyddoedd Cynnar: charlotte.dickens@torfaen.gov.uk