Clybiau Cyn ac Ar ôl Ysgol

Clybiau y tu allan i’r ysgol

Mae clybiau y tu allan i’r ysgol (a elwir weithiau’n glybiau plant) yn aml yn agored cyn ac ar ôl ysgol. Mae rhai hefyd ar agor drwy’r dydd yn ystod y gwyliau.
Maent yn darparu gofal plant a chyfleoedd chwarae i blant ymlacio a datblygu sgiliau newydd tra bod eu rhieni yn gweithio neu’n astudio, gan eu gadael yn ddiogel yn y wybodaeth fod y plant yn derbyn gofal da gan staff cymwys a phrofiadol. Mae nifer o glybiau y tu allan i’r ysgol yn gweithredu ar dir yr ysgol er bod rhai yn defnyddio neuaddau cymunedol neu eglwysi sydd o fewn pellter cerdded diogel o’r ysgol.
Mae’r clybiau hynny sy’n agored yn ystod gwyliau yn tawelu meddwl  rhieni fod eu plant yn mynd i fod mewn awyrgylch diogel, creadigol ac yn brysur tra byddent yn y gwaith. .
Ni chaniteir plant i adael y clwb, oni bai fod oedolyn ni’n ei adnabosd ac wedi ei enwi yn eu casglu.  Mae Clybiau Plant Cymru yn fudiad Cymru gyfan sy’n helpu i sefydlu, datblygu a chefnogi clybiau y tu allan i’r ysgol. Maent yn helpu clybiau neu ddarpar glybiau i geisio am arian a hyfforddi a chefnogi staff y clwb yn ystod y dyddiau cynnar ac helpu i redeg y clwb o hynny’n ‘mlaen.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.clybiauplantcymru.org

Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen am fanylion clybiau lleol cyn ac ar ôl ysgol i gwrdd â’ch anghenion. Rhyddffôn 0800 0196 330 neu e-bostiwch fis@torfaen.gov.uk

 

Nôl i ofal plant ac addysg feithrin >