Ymweliadau Iechyd Gwell

Bydd Tîm Iechyd Dechrau’n Deg yn cynnig cefnogaeth a chyngor ychwanegol trwy gydol beichiogrwydd a blynyddoedd cyntaf bywyd eich plentyn.  Mae gan ein Tîm Iechyd llai o bobl i edrych ar eu hôl ac felly maen nhw’n gallu treulio mwy o amser gyda chi.  Byddan nhw’n gallu helpu teuluoedd gyda babanod a phlant bach gyda bwydo ar y fron, bwydo â photel a diddyfnu. Mae’r gefnogaeth arall yn cynnwys: sgiliau lleferydd ac iaith gynnar, ymddygiad, gweithgareddau chwarae, ffyrdd iach o fyw, cefnogaeth deuluol i rieni/gofalwyr a brodyr a chwiorydd, datblygiad plant.

Mae’r Tîm Iechyd yn cynnal clinigau y rhan fwyaf o wythnosau yn y gymuned.  Dyma gyfle gwych i chi alw i mewn os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi am y sicrwydd o bwyso’ch plentyn.

Gall y tîm hefyd roi manylion yr hyn sydd gan Dechrau’n Deg i’w gynnig yn eich ardal leol.  Gallan nhw hefyd gynnig asesiadau diogelwch i chi gael gatiau grisiau a gardiau tân am ddim.

Yn ogystal ag Ymwelwyr Iechyd mae gennym ni Fydwragedd, Nyrs Iechyd Meddwl, Seicolegydd Clinigol a Nyrsys Meithrin Iechyd Cymunedol. Mae pob un ar gael i gynnig cefnogaeth os ydych chi ei hangen.

Mae Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg wedi eu lleoli yn y gymuned ond maen nhw dal ynghlwm wrth feddygfeydd meddygon teulu. Os nad ydych yn siŵr pwy yw eich Ymwelydd Iechyd yna cysylltwch â’ch meddygfa.

Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch ar 0800 0196 330.

(Peidiwch â gadael unrhyw negeseuon brys yn ymwneud ag iechyd ar y peiriant ateb hwn, cysylltwch â’ch tîm iechyd yn uniongyrchol yn ystod oriau swyddfa neu’ch meddyg teulu y tu allan i’r oriau yma)