Lles ac Iechyd

dewis

Mae Dewis Cymru yn gyfleuster chwilio i unrhyw un sydd am ddod o hyd i wybodaeth am les ac iechyd yn yr ardal y maent yn byw ynddi.

Beth yw lles?

Beth ydym yn ei olygu wrth les? Gall lles fod yn ymwneud â’r man lle rydych chi’n byw, pa mor ddiogel ydych chi’n teimlo, mynd allan yma ac acw a chadw mewn cysylltiad â’ch ffrindiau a’ch teulu. Gall lles olygu llawer o bethau gwahanol i unrhyw un, a gall Dewis Cymru eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth am y pethau sy’n bwysig i chi.

Crëwyd Dewis Cymru dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles Cymru a gellir cael hyd i wybodaeth drwy glicio ar eu gwefan www.dewis.cymru

I gael gwybodaeth am ofal plant, gwasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael i blant, pobl ifanc, teuluoedd a darpar rhieni, defnyddiwch ein cyfleuster chwilio yma, rhowch alwad i ni ar radffôn 0800 0196 330 neu e-bostiwch fis@torfaen.gov.uk