Gofal Plant:

Yn ystod y tymor ar ôl eu hail ben-blwydd mae gan blant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg yr hawl i ofal plant rhan amser wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru am ddeuddeg awr a hanner yr wythnos, sef dwy awr a hanner y dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, am 39 wythnos y flwyddyn.

Mae gweithwyr gofal plant Dechrau’n Deg yn gymwys a phrofiadol iawn. Ond, mae’n gam mawr i gael rhywun arall i ofalu am eich plentyn.  Ewch i weld y lleoliad yr ydych wedi dewis er mwyn yn siŵr eich bod yn gyfforddus â’r safle.  Mae’r gofal plant yn cynnig amgylchedd o ansawdd dan do ac yn yr awyr agored i helpu’ch plentyn i setlo a gwneud ffrindiau newydd.  Maen nhw wedi eu cynllunio’n dda gyda digon o gyfle i’ch plant i chwilota, darganfod a dangos chwilfrydedd ynglŷn â’u byd.  Maen nhw’n debygol o fynd yn flêr serch hynny, felly peidiwch â’u gwisgo nhw yn eu dillad gorau.

Mae mynychu lleoliad Dechrau’n Deg yn gallu ychwanegu at yr hyn y byddwch yn gwneud yn y cartref i helpu’ch plentyn i ddysgu a datblygu eu potensial llawn. Mae dysgu’n gynnar yn gwneud gwahaniaeth MAWR i’r ffordd mae plant yn datblygu ac yn mynd ymlaen i ddysgu trwy gydol eu bywydau.

Beth fydd fy mhlentyn yn ei ddysgu mewn gofal plant gyda Dechrau’n Deg?

  • Chwarae/cymdeithasu gyda phlant o’r un oedran
  • Profi pethau newydd
  • Ymarfer sgiliau newydd
  • Mwynhau amrywiaeth o weithgareddau chwarae
  • Cymryd tro a rhannu
  • Bod mewn awyrgylch sy’n gyfoethog o ran iaith

Mae nifer o wahanol fathau o ofal plant gyda Dechrau’n Deg – cylchoedd chwarae, meithrinfeydd dyddiol, gwarchodwyr plant  ac yn Gymraeg a Saesneg. Bydd un yn agos atoch chi.  Mae rhestr lawn o leoliadau gofal plant ar gael yn y Llyfryn Gofal Plant a ddaeth gyda’ch ffurflen gais (FS1).  Rhoddir y rhain gan yr Ymwelwyr Iechyd fel arfer ond weithiau byddwn yn eu danfon trwy’r post os ydym yn teimlo ein bod ni efallai wedi eich methu.