Dechrau’n Deg

Beth yw Dechrau’n Deg?

Flying Start Logo

Dod â phlentyn i’r byd yw’r rhodd fwyaf gwerthfawr ond gall hefyd fod yn anodd iawn. Os ydych chi’n byw mewn ardal Dechrau’n Deg ac mae gennych blentyn 0-4 oed, gallwch elwa o nifer o wasanaethau i’ch helpu chi a’ch teulu.  Rydym yma i’ch cefnogi chi er mwyn rhoi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’ch plentyn.

Mae Dechrau’n Deg yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys 4 prif elfen:

  • Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd a Bydwreigiaeth Ychwanegol
  • Lle mewn Cylch Chwarae/Gofal Plant i blant 2-3 oed
  • Mynediad i Grwpiau Rhianta
  • Cefnogaeth gyda sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu eich plentyn

Mae gan bob plentyn yr hawl i ffynnu a datblygu hyd at eu llawn botensial. Mae Dechrau’n Deg yn darparu gwasanaethau cefnogaeth ddwys i blant oed 0-4 a’u teuluoedd mewn ardaloedd penodol yn Nhorfaen. Mae’r rhaglen yn anelu i gefnogi teuluoedd i wneud gwahaniaeth i’w plant ym mlynyddoedd cynharaf eu bywydau.

Cliciwch ar y tabiau am ragor o wybodaeth am y 4 prif elfen o Ddechrau’n Deg.

Am ymholiadau cyffredinol ynglŷn â Dechrau’n Deg, cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Rhadffôn 0800 0196 330.

Dewch o hyd i ni ar Facebook: @Torfaen Flying Start

Mae Dechrau’n Deg Torfaen yn ymrwymedig i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio’n gwasanaethau. Mae Hysbysiad Preifatrwydd gyda manylion am sut yr ydym yn diogelu’ch preifatrwydd ar gael yma

Mae Hysbysiad Preifatrwydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan hefyd ar gael yma