Cymorth Magu Plant

Magu plant yw un o’r cyfrifoldebau pwysicaf sydd gan rieni unigol, teuluoedd a chymunedau.

Nid yw’r gallu i fagu plant yn sgìl a geir dros nos. Yn hytrach, mae angen datblygu gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth a hunanymwybyddiaeth yn barhaus.

Sefydlwyd y grwpiau Magu Plant i helpu rhieni trwy’r heriau y gallent eu hwynebu wrth fagu eu plant.

Mae Torfaen yn cynnal sawl Rhaglen Magu Plant bob tymor mewn lleoliadau amrywiol.

Y Rhaglen Meithrin Cysylltiadau Teuluol

Cwrs 10 wythnos yw hwn i rieni a gofalwyr. Mae’n datblygu perthnasoedd cadarnhaol ar sail 4 syniad allweddol:

Hunanymwybyddiaeth a hunan-barch
Disgwyliadau priodol
Empathi
Disgyblaeth gadarnhaol

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i rieni gael cyngor da yn ogystal â chwrdd â rhieni eraill. Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn cynnwys:

Pwysigrwydd canmoliaeth
Ymddygiad i’w anwybyddu
Gwobrwyon a chosbau
Ymdopi â theimladau
Gofalu amdanom ni ein hunain
Helpu plant i aeddfedu
Gwasanaethau Cymorth Magu Plant

Y Rhaglen Blynyddoedd Rhyfeddol – Babanod

Cwrs 8 wythnos hamddenol a hwyliog yw hwn a gynlluniwyd ar gyfer rhieni sydd â baban 0-6 mis oed. Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn cynnwys:

Sut i greu perthynas glòs â’ch baban
Helpu eich baban i gysgu
Diddyfnu
Diogelwch
Pryd i alw Meddyg

Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio clipiau DVD a thrafodaethau grŵp. Byddwch yn dod â’ch baban gyda chi i’r grŵp, ac mae pob sesiwn yn cynnwys amser i fod yn egnïol gyda’ch baban.

Y Rhaglen Blynyddoedd Rhyfeddol – Plant Bach

Cwrs 10 wythnos hwyliog yw hwn a gynlluniwyd ar gyfer rhieni sydd â phlentyn bach 1-2 flwydd oed. Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn cynnwys:

Hybu Iaith Plant Bach
Canmoliaeth ac Anogaeth
Ymdopi â Gwahanu ac Aduno
Gosod Terfynau Effeithiol
Disgyblaeth Gadarnhaol

Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio clipiau DVD a thrafodaethau grŵp. Bydd crèche ar gael ar gyfer eich plentyn bach.

Rhaglen Sylfaenol y Blynyddoedd Rhyfeddol

Cwrs 12 wythnos yw’r Rhaglen Sylfaenol sy’n hybu’r defnydd o ganmoliaeth a chymhellion i annog ymddygiad cydweithredol ynghyd â disgyblaeth gadarnhaol. Mae’n ymdrin â’r canlynol:

Gosod rheolau tŷ
Trefn ddyddiol
Gosod terfynau effeithiol sy’n cryfhau sgiliau cymdeithasol plant a’u gallu i reoli eu hemosiynau
Defnyddio strategaethau amser i dawelu

Cysylltiadau Teulu Siarad a Pobl Ifanc – rhieni pobl ifanc

Mae gweithdai Siarad a Pobl Ifanc yn seiliedig ar ymchwil gyfredol ar ddatblygiad glasoed a magu plant. Maent wedi eu dylunio ar gyfer rhieni pobl ifanc a rhieni plant yn agosáu at eu harddegau.

Eu nod yw gwella’r berthynas rhwng rhieni a phobl ifanc trwy: Archwilio pwysigrwydd rhieni i bobl ifanc yn eu harddegau; Datblygu dealltwriaeth rhieni o ddatblygiad pobl ifanc yn eu harddegau a dylanwad datblygiad yr ymennydd ar ymddygiad; Datblygu dealltwriaeth rhieni o’r pwysigrwydd i wrando, cyfathrebu geiriol a di-eiriau gyda phobl ifanc yn eu harddegau; Hyrwyddo dulliau cadarnhaol o osod ffiniau a datrys problemau; a cyfle i rieni rannu eu profiad â rhieni eraill. Cynigir 4 sesiwn.

Cysylltiadau Teulu Croeso i’r Byd – ystod oedran – cynenedigol

Mae’r wyth sesiwn yn ffordd hamddenol i rieni feddwl am y trawsnewid i fod yn rhiant a thrafod materion a all fod yn her i bob mam a thad newydd.

Dros yr wyth wythnos byddwch chi’n cwrdd â rhieni eraill ac arweinwyr grwpiau profiadol i siarad am gwestiynau pwysig fel “Sut mae fy maban yn datblygu?” “Sut ddylwn i fwydo fy mabi?” “Beth fydda i’n ei wneud pan fydd fy maban yn crio?” “A oes help ar gael?”

Bydd rhieni’n mynychu’r grŵp o o’r pwynt  22 wythnos o feichiogrwydd ymlaen

Mae wyth sesiwn 2 awr gyda egwyl a lluniaeth

Gwahoddir 8-10 rhiant ac mae dau arweinydd grŵp hyfforddedig Cysylltiadau Teulu

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Cydlynydd Rhianta Amlasiantaethol

Ffôn: 01495 766479

Cliciwch ar y dolenni canlynol i gael mwy o adnoddau magu plant.