Cylchoedd chwarae

Cylchoedd Chwarae / Cylch Meithrin

Mae cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin yn darparu gofal plant cyn-ysgol ar gyfer plant ifanc o 2 a 2 flwydd a hanner hyd at 5 mlwydd oed. Mae sesiynau fel arfer yn para tua 2 neu 3 awr yn y bore neu’r prynhawn, o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor. Mae rhai cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin yn cynnig clybiau cinio a meithrinfeydd dechrau a diwedd dydd i ddarparu gofal plant i blant ysgol feithrin.

Gall cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin fod yn rhai cofrestredig gydag AGC neu heb gofrestru, os ydynt yn agor am lai na 2 awr y dydd. Mae rhai cylchoedd chwarae cofrestredig a chylchoedd meithrin yn Nhorfaen hefyd yn ddarparwyr addysg feithrin gymeradwy. Mae hyn yn golygu y gall rhieni / gofalwyr plant 3 a 4 oed ddewis i’w plentyn gael mynediad i’w lle addysg feithrin a ariennir yn un o’r cylchoedd chwarae / cylchoedd meithrin cymeradwy.

Cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen am fanylion cylchoedd chwarae a chylchoedd meithrin lleol. Rhadffon 0800 0196 330 neu e-bostiwch fis@torfaen.gov.uk

Chwiliwch am gylch chwarae / cylch meithrin yma

Nôl i ofal plant ac addysg feithrin >