Ydych chi’n gweithio o fewn Gofal Plant yn Nhorfaen ar hyn o bryd? Oes angen cyngor arnoch ar hyfforddiant a chymwysterau?
Mae’r daflen hon yn darparu gwybodaeth i’ch arwain i’r cyfeiriad cywir. Workforce-Development-Leaflet.pub-UPDATED-2022-Welsh
Rhaglen Hyfforddi Partneriaeth Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant (EYDCP)
Mae EYDCP wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau staff sy’n gweithio gyda phlant mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar neu ofal plant yn Nhorfaen.
Cyflwynir rhaglen hyfforddi’n flynyddol dros y flwyddyn academaidd. Anfonir Gwybodaeth Hyfforddiant i ddarparwyr Gofal Plant yn dymhorol. Mae’r rhaglen hyfforddi yn darparu hyfforddiant statudol hanfodol sy’n cynnwys Diogelu Plant, Cymorth Cyntaf Pediatrig, Diogelwch Bwyd Lefel 2, Codi a Chario, Iechyd a Diogelwch gan gynnwys Asesiadau Risg.
Mae hefyd cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant pellach, yn cynnwys Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Cod Ymarfer i Gymru, Hyrwyddo Ymddygiad Cadarnhaol, Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth a llawer mwy.
Am fwy o wybodaeth hyfforddiant cysylltwch â Chydlynydd Datblygu’r Gweithlu, ar 0800 0196 330 neu e-bostiwch childcaresupport@torfaen.gov.uk
PARTNERIAETH DATBLYGU’R BLYNYDDOEDD CYNNAR A GOFAL PLANT TORFAEN TYMOR Y GWANWYN 2023
Ffurflen Archebu Hyfforddiant y Blynyddoedd Cynnar – TYMOR Y GWANWYN 2023