Amdanom Ni

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen (FIS) yn darparu gwybodaeth a chyngor diduedd, rhad ac am ddim am wasanaethau a gweithgareddau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, yn cynnwys darpar rheini yn Nhorfaen. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am addysg feithrin, meithrinfeydd dydd, cylchoedd chwarae, cylchoedd meithrin, gwarchodwyr plant cofrestredig, clybiau y tu allan i’r ysgol, grwpiau babanod a phlant bach, gweithgareddau hamdden a llawer mwy.

Gallwn hefyd gyfeirio rhieni/gofalwyr at wybodaeth am wasanaethau neu fudiadau eraill yn ôl ymholiadau unigol. Rydym yn un o 22 o Wasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yng Nghymru, sydd yn cael eu darparu gan Awdurdodau Lleol. Darganfyddwch mwy am ein Datganiad Cenhadaeth, strwythur, hanes a’n gwaith tuag at yr Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant yn Nhorfaen yma.

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd wrth i chi ddefnyddio ein gwasanaethau. Gallwch ddod o hyd i Hysbysiad Preifatrwydd sy’n manylu sut yr ydym yn defnyddio’r wybodaeth amdanoch chi a sut yr ydym yn amddiffyn eich preifatrwydd yma.