Addysg Feithrin

Mae lle rhan amser rhad ac am ddim mewn addysg feithrin ar gael i blant 3 a 4 oed yn Nhorfaen. Gall plentyn dderbyn cyllid o’r trydydd tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed. Dyrennir lleoedd a ariennir mewn addysg feithrin yn Nhorfaen yn rhan amser (sesiynau bore neu brynhawn yn unig) am bum niwrnod yr wythnos. Mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, gellir cynnig lleoliadau llawn amser i blant pedair oed.

Gall plant fynychu dosbarth meithrin mewn ysgol neu leoliad gofal plant sy’n ddarparwr addysg feithrin a gymeradwywyd (gall y rhain gynnwys grwpiau chwarae, cylchoedd meithrin neu feithrinfeydd dydd).

Mae’r Awdurdod Lleol hefyd yn ariannu lleoedd addysg feithrin mewn lleoliadau gofal plant a gymeradwywyd a hynny hyd at yr un gost â darparu lle ar gyfer addysg feithrin mewn ysgol – sef £477 y tymor ar hyn o bryd (yn 2018). Rhieni a gofalwyr sy’n gyfrifol am unrhyw gostau gofal plant sydd yn fwy na’r cyllid yma.

Dylai Rhieni / Gofalwyr dderbyn ffurflen gais yn y post ym mis Medi cyn pen-blwydd eu plentyn yn dair oed. Os nad ydych wedi derbyn ffurflen gais erbyn diwedd mis Medi y flwyddyn honno, cysylltwch â’r tîm Derbyn ar 01495 766915.

Rhoddir gwybod i rieni / gofalwyr am ganlyniad eu cais trwy’r tîm derbyn a dderbyniodd y cais.

Gall Gwasanaeth gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen ddarparu manylion y ddarpariaeth addysg feithrin leol mewn ysgolion neu leoliadau gofal plant a gymeradwywyd. Ffoniwch Radffôn 0800 0196 330 neu e-bostiwch fis@torfaen.gov.uk

Fel arall, gallwch chwilio am ddarpariaeth feithrin yma

I gael mwy o wybodaeth am addysg feithrin yn Nhorfaen a sut i wneud cais ewch i dudalen we Derbyn i’r Ysgol  neu cliciwch ar y Llyfryn Gwybodaeth am Ysgolion (PDF) isod:

Llyfryn Gwybodaeth am Ysgolion

Y Cynnig Gofal Plant i Gymru (Gofal Plant 30 awr)

Nôl i ofal plant ac addysg feithrin >